Agorwyd y feithrinfa ym mis Gorffennaf 2008 ac rydym bellach wedi cofrestru ar gyfer 54 o Blant rhwng 3 mis ac 11 mlwydd oed.
Mae gennym dri grŵp oedran yn y feithrinfa:
Mae gennym hefyd Glwb Ar ôl Ysgol a Chlwb Gwyliau arbennig a agorwyd ym mis Gorffennaf 2010 yn darparu ar gyfer 32 o blant 3 - 11 oed ac rydym yn cynnig gwasanaeth danfon yn ôl a blaen o'r ysgol i ysgolion a chylchoedd chwarae lleol.
Mae gennym le chwarae yn yr awyr agored, sydd ar y to, yn cynnig amrywiaeth o offer chwarae, dŵr a phwll tywod.
Mae gennym gogyddes yn y feithrinfa sy'n paratoi prydau cytbwys ac iach i'r plant, a gallwn hefyd ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion deietegol. Cawsom raddfa lefel 5 yn yr archwiliad hylendid bwyd.
Byddwn yn cael archwiliad blynyddol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).