Mae gennym system gwe-gamera yn y feithrinfa; mae'n wefan ddiogel sydd wedi'i hamgryptio'n sylweddol. Gall rhieni fewngofnodi i'r system gan ddefnyddio cyfrinair unigol a gânt gan gwmni'r gwe-gamera. Mae tri chamera yn y feithrinfa, un ym mhob un o'r ystafelloedd chwarae mawr. Dim ond yr ystafell y mae eu plentyn ynddi y bydd rhieni'n gallu ei gweld www.watchmykids.co.uk
Gweler Polisi Gwe-gamera'r Feithrinfa am fwy o wybodaeth.
Yma yn Babinogion rydym yn deall y gall gadael eich plentyn yn rhywle am y tro cyntaf fod yn brofiad trawmatig i rieni; felly rydym wedi penderfynu gosod cyfleuster gwe-gamera yn y feithrinfa, gan ddarparu tawelwch meddwl i rieni, gan wybod bod eu plentyn yn hapus a diogel yn ein gofal ni.
Mae'r safle'n gysylltiad Ether-rwyd wedi'i ddiogelu a'i amgryptio ar lefel uchel. Bydd angen i unrhyw riant sydd eisiau cael mynediad at y system gysylltu â Nursery I Watch, a fydd wedyn yn cysylltu â'r feithrinfa i gadarnhau bod eich plentyn yn mynychu Meithrinfa Ddydd Babinogion.
Yna byddwch yn derbyn cyfrinair unigol a fydd yn caniatáu i chi gael mynediad at y safle. Dim ond yr ystafell lle mae eich plentyn byddwch yn gallu ei gweld.
Er enghraifft, os yw eich plentyn yn ystafell y babanod ddydd Llun rhwng 9 - 1, dim ond ystafell y babanod y byddwch yn gallu ei gweld ar ddydd Llun rhwng 9 - 1.
Sicrhewch, os gwelwch yn dda, pan roddir cyfrinair i chi nad ydych yn ei roi i unrhyw un arall. Dim ond rhieni'r plentyn sydd i ddefnyddio'r cyfrinair hwn.
Bydd peidio â gwneud hyn yn arwain at gau eich cyfrif gwe-gamera.