Clwb Brecwast
Mae modd i blant ddod i'r clwb brecwast rhwng 7.30am a 9.00am, i chwarae gyda'u ffrindiau a chael brecwast iach cyn mynd i'r ysgol. Byddwn hefyd yn nôl eich plant o'r ysgol ac yn dod â nhw'n ôl i'r feithrinfa i chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau cyn i rywun ddod i'w casglu.
Mae plant yn cael cynnig dewis o dost a grawnfwydydd grawn cyflawn i frecwast - (tarwch olwg ar y fwydlen i gael rhagor o fanylion)
Clwb Brecwast Caernarfon
Bydd Yncl Griff a'r tîm yn mynd a'ch plentyn i'r ysgol, rydym yn cynnig gollwng y plant yn yr ysgolion canlynol:
- Ysgol Bontnewydd
- Ysgol Llanrug
- Ysgol Waunfawr
- Ysgol yr Hendre
- Ysgol Maesincla
- Ysgol y Gelli
Byddwn yn cynnig gollwng y plant yn y gylchoedd chwarae lleol yn y boreau.
- Cylch Meithrin y Gelli
- Cylch Meithrin Waunfawr
- Cylch Meithrin Bontnewydd
- Plas Pawb, Maesincla
- Cylch Meithrin Llanrug
Clwb Brecwast Menai
Rydyn ni'n mynd â phlant i:
- Ysgol y Borth
- Ysgol Llanfairpwll
Os na welwch chi enw ysgol eich plentyn ar y rhestr, gofynnwch a fe wnawn ein gorau glas i gwrdd â'ch anghenion.