Ystafell 'Tweenies'
Ystafell Tweenies yw'r lle delfrydol i blant rhwng 18 mis a 2 oed, sy'n brysur yn defnyddio'u dychymyg ac yn dysgu o'r byd o'u cwmpas. Mae plant yn gallu teimlo'n ddiogel a saff mewn amgylchedd croesawus, hapus ac ysgogol, gyda staff dwyieithog, cymwysedig, gofalgar a chyfeillgar yn gofalu amdanyn nhw.
Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl i hyrwyddo pob agwedd ar ddatblygiad plant, yn annog annibyniaeth ac yn helpu i feithrin hyder a sgiliau cymdeithasol, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael gofal personol o safon.
Bydd y gweithgareddau'n cynnwys:
- Amser cylch y grŵp
- Amser stori a chanu
- Celf a chrefft
- Chwarae yn yr awyr agored, cerddoriaeth a symud
- Gweithgareddau coginio
- Chwarae sy'n gwneud llanast
- Gemau ar fyrddau
- Chwarae rhydd
Bydd y Tweenies yn cael eu prydau gyda'r plant bach yn yr ystafell gwneud llanast sy'n rhoi cyfle iddyn nhw gymdeithasu gyda phlant hŵn.