Drwy gydol y dydd, mae plant yn cael brecwast, byrbryd yn y bore, cinio a byrbryd ganol y pnawn neu rywbeth bach i de.
Mae copi o'r bwydlenni ar gael isod. Bydd plant yn cael dŵr amser prydau ac yn cael cynnig dŵr a llefrith drwy gydol y dydd.
Bydd y bwydlenni'n cael eu hadolygu bob tri mis, a bydd ryseitiau newydd yn cael eu cyflwyno. Mae'r rhieni a'r plant yn cael eu cynnwys yn y broses hon, a byddwn ni'n gofyn iddyn nhw am unrhyw syniadau am ryseitiau.
Os oes gan blentyn ofynion arbennig o ran deiet, mae modd darparu ar eu cyfer yn gyffredinol. Mae opsiwn llysieuol bob amser ar gael.
Cynigir Llefrith, Sudd Afal a Dŵr gyda bwyd ac yn ystod y dydd.
I weld ein bwydlen - cliciwch yma (bwydlen enghreifftiol)
I weld ein bwydlen - cliciwch yma (bwydlen enghreifftiol)