Rydyn ni ar agor rhwng 7.30am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chyfarpar addysgiadol a llawn hwyl.
Mae'r feithrinfa wedi'i lleoli yn nhref fechan Porthaethwy, ac rydyn ni'n lwcus iawn o allu mwynhau holl fannau hyfryd yr ynys. Byddwn ni'n mynd â'r plant allan am dro ac i gael picnic yn aml. Mae ein plant bob amser yn dysgu am y byd o'u cwmpas drwy gerdded drwy'r goedwig yn eu hesgidiau glaw, rhoi bwyd i'r hwyaid yn Ynys Tysilio neu losgi ychydig o egni yn y parc.
Mae gennyn ni bedwar grŵp oedran yn y feithrinfa:
Mae gennyn ni gogydd sy'n paratoi prydau iach a chytbwys i'r plant. Gallwn ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion deiet hefyd.
Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn ein harolygu bob blwyddyn.