Rydym yn cynnig cwricwlwm yn seiliedig ar chwarae ac yn cwmpasu saith maes y Cyfnod Sylfaen. Caiff y plant gyfleoedd i goginio, defnyddio cyfrifiaduron a Nintendo Wii, crefftau, Chwarae Rhydd, Adeiladu, Chwarae Gwneud Llanast a chael mynd ar deithiau i barciau ac atyniadau lleol. Mae'r plant yn cymryd rhan wrth gynllunio gweithgareddau a bwydlenni ac yn rhoi gwybod i'r staff beth fyddent yn hoffi ei wneud.